Taleb Anrheg
Rhowch anrheg arbennig iawn i’ch ffrindau – rhowch daleb am fwyd neu lety yn y Bell iddyn nhw. Gallwch brynu taleb anrheg am unrhyw werth a gellir eu defnyddio i dalu am brydau bwyd neu aros dros nos. Ebostiwch ni gyda’ch cais ac fe gysylltwn ni a chi am fanylion gwerth y daleb a manylion talu.
Nodwch dim ond Gwely a Brecwast sydd ar gael nos Sul gan fod y bar a’r bwyty ar gau, oni bai fod partïon o dros 10 wedi archebu o flaen llaw.
Mae’n ddrwg gennym ond allwn ni ddim derbyn cŵn.
Gallwch gofnodi o 2pm ac ymadael erbyn 10am.
Cyrraedd
Mae’r Bell Country Inn ar y A470 rhwng Llandrindod a Rhaeadr. Cliciwch yma i weld map o’r lleoliad
Polisi Canslo
48 awr
Archebu bwrdd
Mae hi wastad yn help os gallwch chi archebu eich bwrdd gan bod y bwyty yn gallu bod yn brysur.
Partïon Mwy o Faint
Rhaid archebu o flaen llaw ar gyfer partïon o 8 neu fwy
Amserau Gweini Bwyd
|
Cinio |
Swper |
LLUN |
AR GAU |
6.00 tan 8.30 |
MAWRTH |
12.00 tan 2.00 |
6.00 tan 9.00 |
MERCHER |
12.00 tan 2.00 |
6.00 tan 9.00 |
IAU |
12.00 tan 2.00 |
6.00 tan 9.00 |
GWENER |
12.00 tan 2.00 |
6.00 tan 9.00 |
SADWRN |
12.00 tan 2.00 |
6.00 tan 9.00 |
SUL |
12.00 tan 2.00 |
AR GAU |
NODWCH :-
[GALL AMSERAU AGOR Y BAR AMRYWIO]
Datganiad Hygyrchedd
- Parcio ar darmac
- Prif ddrysau blaen dwbl
- Hygyrch i gadeiriau olwyn ymhobman
- Ystafell anabl gydag ardal wlyb a mynediad rhwydd i’r holl gyfleusterau
Tacsis
Os hoffech archebu tacsi ffoniwch Pro Cabs ar 01597822877 neu Adyes ar 01597822118